TINA
PASOTRA
Tina Pasotra is an artist, director and filmmaker based in Cardiff. She works across moving image, writing, dance and installation, while seeking to centre practices of collaboration, care and equity. Pasotra is developing a new moving image work 'JAMNI' (forthcoming 2025).

Between 2022/2024 she was a Writer in Residence for 5 Acts Productions, ITV. Pasotra completed a trainee director scheme at Bad Wolf in 2020, shadowing BAFTA winning director Farren Blackburn for the Sky One series, 'A Discovery of Witches'. In 2020/2021, she was selected and mentored by Charlie Covell ('The End of The F***ing World', 'KAOS') through Dancing Ledge/ITV New Talent Scheme.

Pasotra's recent artistic projects include an ongoing collaboration with the National Botanic Garden of Wales. Including 'Bloom' (2019) a self-directed residency (2020) and a week-long residency for black and brown female creatives titled 'Mycelium’ (2022).

As a filmmaker, Pasotra's first commissioned piece 'But Where Are You From?' (2017) for C4/Random Acts in association with Big Dance Shorts India was featured at the Science Museum’s ‘Illuminating India’ event and has screened at festivals across the UK and India. She directed and co-wrote her debut narrative short film, 'I Choose' (2020), nominated for Best Short Film BAFTA Cymru 2021 and in the same year selected for Network@LFF’s flagship talent development programme at the heart of the BFI London Film Festival.

In theatre, Pasotra has worked on projects with and received research and development support from National Theatre Wales. She was emerging director for their live immersive theatre gig ‘The Insatiable, Inflatable Candylion’ (2015-16) and assisted Artistic Director Kully Thiari on ‘Sisters’ (2018), an all-female work-in-progress by leading British-Asian and Indian artists.

Pasotra's work and research has received additional support from Arts Council Wales, British Council, Wales Arts International, Ffilm Cymru Wales, BFI Network, BBC Wales and C4, and she is a member of BAFTA Connect.



Artist, cyfarwyddwr a gwneuthurwr ffilmiau sy’n byw yng Nghaerdydd yw Tina Pasotra. Mae hi'n gweithio ar draws meysydd delweddau symudol, ysgrifennu, dawns a chelf osod, ac yn pwysleisio arferion cydweithio, gofal a chydraddoldeb. Ar hyn o bryd mae hi'n Ysgrifennwr Preswyl ar gyfer 5 Acts Productions, ITV.

Mae prosiectau artistig diweddar Pasotra yn cynnwys gwaith cydweithredol parhaus gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi arwain at gyfnod preswyl hunangyfeiriedig yn 2020 a chyfnod preswyl wythnos o hyd i fenywod creadigol du a brown o’r enw ‘Mycelium’ (2022)’.

Fel gwneuthurwr ffilmiau, cafodd darn cyntaf Pasotra a gomisiynwyd ar gyfer C4/Random Acts mewn cydweithrediad â Big Dance Shorts India, 'But Where Are You From?' (2017), ei gynnwys yn nigwyddiad ‘Illuminating India’ yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain a’i dangos mewn gwyliau ledled y DU ac India. Cyfarwyddodd a chyd-ysgrifennodd ei ffilm fer naratif gyntaf, ‘I Choose’ (2020), a enwebwyd ar gyfer Ffilm Fer Orau BAFTA Cymru 2021 ac yn yr un flwyddyn fe’i dewiswyd ar gyfer rhaglen datblygu talent flaenllaw Network@LFF wrth galon Gŵyl Ffilmiau Llundain BFI.

Cwblhaodd Pasotra gynllun cyfarwyddwr dan hyfforddiant yn Bad Wolf yn 2020, gan gysgodi’r cyfarwyddwr sydd wedi ennill BAFTA, Farren Blackburn, ar gyfer y gyfres Sky One, ‘A Discovery of Witches’. Yn 2020/2021, cafodd ei dewis a’i mentora gan Charlie Covell (‘The End of The F***ing World’, ‘KAOS’) drwy Dancing Ledge/Cynllun Talent Newydd ITV.

Yn y theatr, mae Pasotra wedi gweithio ar brosiectau gyda National Theatre Wales a Camden People’s Theatre ac wedi cael cymorth ymchwil a datblygu ganddynt. Roedd hi’n gyfarwyddwr newydd ar gyfer eu perfformiad theatr byw trawiadol ‘The Insatiable, Inflatable Candylion’ (2015-16) a bu’n cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Artistig Kully Thiari ar ‘Sisters’ (2018), gwaith ar y gweill gan fenywod blaenllaw Prydeinig-Asiaidd ac Indiaidd. Mae gwaith ac ymchwil Pasotra wedi cael cefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, British Council, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Ffilm Cymru Wales, Rhwydwaith BFI, BBC Wales a C4, ac mae hi’n aelod o BAFTA Connect.

Welsh